Bydd pêl-droediwr Tref Aberystwyth a’r fam idri Jessica Baker, yn dathlu Sul y Mamau gyda’i mab, ar ôl derbyn trallwysiadau gwaed hanfodol yn ystod genedigaeth.
Collodd Jessica tua 30% o’i gwaed ei hun wrth roi genedigaeth i’w mab Connor saith mlynedd yn ôl, ac roedd angen sawl trallwysiad gwaed brys arni yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.
O ganlyniad i dderbyn gwaed, nid yw Jessica bellach yn gallu rhoi gwaed ei hun, a dyna pam mae hi’n awyddus i rannu ei stori a chodi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o roi gwaed.