Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dathlu ar ôl i’w brosiect cydweithredol gyrraedd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru eleni, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Llun 15 Awst 2022).
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cystadlu am y wobr ganlynol:
Darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ar draws GIG Cymru
• Dull partneriaeth o sefydlu gwyliadwriaeth COVID-19 yn gyflym yn ystod y pandemig
Caiff cynllun serowyliadwraeth COVID-19 ei ddosbarthu mewn partneriaeth â phedwar sefydliad GIG Cymru. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn darparu samplau gwaed a gwybodaeth ddemograffig i'r cynllun. Mae'r cynllun yn diweddaru Llywodraeth Cymru ar y newidiadau mewn imiwnedd o ganlyniad i heintiau a brechlynnau i'r feirws COVID-19 ym mhoblogaeth oedolion Cymru, fis ar ôl mis.
Mae'r prosiect, a ddechreuodd yn ystod y don gyntaf yn 2020, wedi prosesu dros 66,000 o samplau hyd yma. Mae hyn yn cefnogi penderfyniadau effeithiol am raglenni brechu a mesurau iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Dr Siân James sy'n arwain y prosiect ar ran Gwasanaeth Gwaed Cymru, sy'n cynnwys dull amlddisgyblaethol eang ar draws y sefydliad. Mae'r gwaith trawsadrannol hwn, ar y cyd â'r bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, wedi cael ei gydnabod am ei effaith gan dderbyn enwebiad am y wobr.