Bydd Dr Edwin Massey yn cychwyn yn ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaeth Gwaed Cymru ym mis Ebrill 2023, gan gymryd lle Dr Janet Birchall, sydd wedi ymddeol.
Mae gan Edwin dros 20 mlynedd o brofiad ym maes trallwyso gwaed, gan gynnwys rolau blaenorol yn gweithio i NHSBT (Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG) ac i Ysbytai Prifysgol Bryste a Weston.
Cyn ymuno â Gwasanaeth Gwaed Cymru yn 2021 fel Haematolegydd Ymgynghorol, bu Edwin yn gweithio fel Swyddog Cyfrifol ac fel Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Gwasanaethau Diagnostig a Therapiwtig i NHSBT.