Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Hanes Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae gan wasanaethau gwaed y Deyrnas Unedig (DU) enw da ledled y byd am ansawdd a diogelwch sydd heb ei ail ac mae hyn wedi'i adeiladu ar system o roi gwaed yn wirfoddol a heb dâl.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn sefydliad unigryw o fewn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (GIG). Mae'n rhannu ymrwymiad holl staff y GIG i ddarparu'r safonau proffesiynol uchaf posibl ac mae'n cyflawni ei waith mewn partneriaeth â haelioni ei roddwyr anhunanol sy'n rhoi eu gwaed er mwyn i bobl eraill, ddieithr allu cael y driniaeth feddygol sydd ei hangen arnynt.

 

 

 

 

 

Y dechrau

Yr Ail Ryfel Byd oedd y catalydd ar gyfer datblygu'r gwasanaeth trallwyso gwaed modern. Ym 1939 sefydlwyd Depo Cyflenwad Gwaed y Fyddin ym Mryste ac agorwyd pedwar banc gwaed sifil yn Llundain a'r cyffiniau.

Y bwriad gwreiddiol oedd darparu gwaed ar gyfer milwyr a sifiliaid a gafodd eu hanafu. Profodd hyn mor llwyddiannus nes i wyth canolfan ranbarthol arall agor ym 1940 dan oruchwyliaeth y Gwasanaethau Meddygol Brys.

Ar ddiwedd y rhyfel unwyd y canolfannau hyn, dan oruchwyliaeth y Weinyddiaeth Iechyd, i ffurfio Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Cenedlaethol Cymru a Lloegr (NBTS) a sefydlwyd yn ffurfiol ar 26 Medi 1946. Sefydlodd yr Alban ei gwasanaeth trallwyso gwaed ei hun.

Arweiniodd Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1946 at sefydlu'r GIG yn 1948 ac o ganlyniad daeth y gwasanaethau trallwyso gwaed o dan ei ymbarél.

Esblygu

Yng Nghymru, sefydlwyd Gwasanaeth Gwaed Cymru fel gwasanaeth Cymru gyfan yn 2016 i ddarparu gwasanaeth gwaed a thrawsblannu cenedlaethol i'r GIG yng Nghymru. Cyn 2016, roedd gwasanaethau'r gogledd a'r de ar wahân ac yn atebol i wahanol awdurdodau. Trosglwyddwyd yr atebolrwydd am wasanaeth gwaed de Cymru i Lywodraeth Cymru a oedd newydd ei datganoli ym 1999. Cafodd gwasanaethau gwaed ar gyfer rhanbarth gogledd Cymru eu darparu gan Waed a Thrawsblaniadau'r GIG tan 2016 pan sefydlwyd y gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan.

Erbyn hyn, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn adran weithredol o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.