Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cysylltwch â ni..

Diolch yn fawr

Diolch yn fawr am wneud apwyntiad i roi gwaed

Diolch am ein helpu i achub bywydau. Drwy wneud apwyntiad i roi gwaed, rydych chi’n helpu pobl ar draws Cymru i gael ail gyfle mewn bywyd.

Boed eich rhodd gyntaf, eich ail rodd neu eich ugeinfed rhodd, mae pob rhodd o waed yn cyfrif. Hebddoch chi, ni fyddai llawer o gleifion yn fyw heddiw, felly rydym yn ddiolchgar iawn eich bod chi wedi dewis cymryd amser allan o'ch diwrnod i helpu'r rheini mewn angen.

Diolch yn fawr, gan bawb yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru ac ar ran cleifion ar draws y wlad, am drefnu apwyntiad i roi gwaed.

Darllenwch yr wybodaeth bwysig hon cyn i chi roi gwaed.

Pwy ydych chi'n helpu

Nid dim ond ni yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru sy'n ddiolchgar am eich rhoddion gwaed, ond y miloedd o bobl sydd wedi cael eu bywydau wedi’u hachub diolch i'ch haelioni. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni - dyma gasgliad o bobl sydd wedi derbyn rhodd achub bywyd.

Beth i'w wneud nesaf

Nawr bod eich apwyntiad wedi'i drefnu, gallwch ein helpu i sicrhau bod lefelau ein stociau gwaed yn cael eu cadw'n iach mewn ffyrdd eraill. Gallwch ein cefnogi, a sicrhau bod digon o waed ar gael i gleifion ar draws Cymru sydd ei angen, drwy annog pobl eraill i ddod yn rhoddwyr gwaed ac i drefnu apwyntiad hefyd.

Beth am ddweud wrth eich ffrindiau a'ch teulu am eich apwyntiad, neu roi poster yn eich ystafell staff i annog eraill i roi gwaed?

Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch barhau i gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru a helpu i achub mwy o fywydau yng Nghymru.

Beth i’w ddisgwyl pan rydych chi’n rhoi gwaed

Unwaith y byddwch wedi cofrestru i roi gwaed, gallwch ddarganfod beth i'w ddisgwyl yn eich apwyntiad, a dysgu am y broses o roi gwaed ar ein gwefan. Os mai dyma'r tro cyntaf i chi roi gwaed neu os ydych chi eisiau mynd dros beth sy'n digwydd, yna dilynwch ein dolen i gael gwybod mwy am beth i'w ddisgwyl wrth roi gwaed yn un o'n canolfannau rhoi gwaed.

Rhagor o wybodaeth
Daniel Gosset

Rydych chi’n gwneud gwahaniaeth.

Boed yn edrych ymlaen at roi eich rhodd gyntaf, wedi rhoi o’r blaen neu’n gefnogwr brwd, dyma gasgliad o straeon ysbrydoledig i ddangos y gwahaniaeth anhygoel mae rhoi gwaed yn ei wneud.

Darllen mwy